Pêldroediwr o Ffrainc ydy Karim Benzema (ganwyd Karim Mostafa Benzema 19 Rhagfyr 1987) sy'n chwarae i Real Madrid yn La Liga yn Sbaen ac i dîm pêl-droed cenedlaethol Ffrainc.

Karim Benzema

Benzema yn chwarae dros ffrainc yn Euro 2012.
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawn Karim Mostafa Benzema[1]
Dyddiad geni (1987-12-19) 19 Rhagfyr 1987 (36 oed)
Man geni Lyon, Ffrainc
Taldra 1.85 m (6 ft 1 in)[2]
Safle Ymosodwr
Y Clwb
Clwb presennol Real Madrid
Rhif 9
Gyrfa Ieuenctid
1996–2005 Lyon
Gyrfa Lawn*
Blwyddyn Tîm Ymdd (Gôl)
2004–2006 Lyon B 20 (15)
2004–2009 Lyon 112 (43)
2009– Real Madrid 353 (170)
Tîm Cenedlaethol
2004 Ffrainc dan 17 4 (1)
2004–2005 Ffrainc dan 18 17 (14)
2005–2006 Ffrainc dan 19 9 (5)
2006–2007 Ffrainc dan 21 5 (0)
2007– Ffrainc 81 (27)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 18:21, 26 Mai 2015 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 26 Mai 2014

Ymunodd Benzema â chlwb Olympique Lyonnais pan yn naw mlwydd oed a daeth trwy'r system academi ieuenctid cyn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb yn ystod tymor 2004–05. Llwyddodd i ennill pencampwriaeth Ligue 1 am bedwar tymor yn olynol gyda Lyon, gyda'r bencampwriaeth olaf yn seithfed pencampwriaeth o'r bron i'r clwb ac yn dymor welodd Benzema yn cael ei ddewis fel Chwaraewr y Flwyddyn Ligue 1.

Yng Ngorffennaf 2009, symudodd i Real Madrid am ffi o €35m[3] ac roedd yn aelod o'r tîm enillodd La Liga yn 2011-12 a Chynghrair y Pencampwyr yn 2013-14.

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Ffrainc ar 28 Mawrth 2007 fel eilydd ail hanner yn erbyn Awstria a rhwydodd unig gôl y gêm.[4]

Ym mis Hydref 2021, yn achos Karim Benzema yn achos sextape Mathieu Valbuena, gofynnodd swyddfa erlynydd Versailles i’r llys troseddol ynganu dedfryd o garchar wedi’i ohirio am ddeng mis a dirwy o 75,000 ewro yn erbyn Karim. Benzema.

Cyfeiriadau golygu

  1. "UEFA Champions League 2008/2009" (PDF). uefa.com.
  2. "Real Madrid C.F. – Karim Benzema". Real Madrid. Cyrchwyd 14 March 2012.
  3. "Benzema agrees six-year deal at Real Madrid". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. Vignal, Patrick (2007-03-28). "Debutant Benzema gives France win over Austria". Reuters.


  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droediwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.