Mae Culfor Hormuz[1] (Arabeg: مضيق هرمز - Madīq Hurmuz) yn gulfor sy'n gwahanu Gwlff Persia yn y gorllewin oddi wrth Gwlff Oman yn y dwyrain. Ar ochr ogleddol y culfor mae Iran, ac ar yr ochr ddeheuol Yr Emiradau Arabaidd Unedig a Musandam, sy'n rhan o Oman.

Culfor Hormuz
Math culfor Edit this on Wikidata
LL-Q13955 (ara)-Zinou2go-مضيق هرمز.wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Môr Arabia Edit this on Wikidata
Sir Oman Edit this on Wikidata
Gwlad Iran, Oman, Yr Emiradau Arabaidd Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 26.6°N 56.5°E Edit this on Wikidata
Map

Mae'r culfor yn 21 milltir o led yn ei fan gulaf. Dyma'r unig ffordd allan o Gwlff Persia i'r llongau tancer sy'n cario olew o'r gwledydd o amgylch y Gwlff, ac amcangyfrifir bod tua 40 y cant o olew y byd yn mynd trwy'r culfor yma. Oherwydd hyn, mae o bwysigrwydd strategol mawr.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gareth Jones (gol.), Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 95.