Mae Ceuta yn diriogaeth Sbaenaidd 19 km², sy'n rhan o ranbarth Andalucía yn Sbaen, ar arfordir Gogledd Affrica. Mae'n wynebu'r Môr Canoldir i'r gogledd ac yn ffinio â Moroco (rhanbarth Tanger-Tétouan) yn y de. Mae gan Ceuta, ynghyd â'r dref o'r un enw sy'n brifddinas iddi (Arabeg Sebta o'r Lladin Septem), boblogaeth o 70,000.

Ceuta
Math dinas ymreolaethol Sbaen Edit this on Wikidata
Poblogaeth 83,039 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+01:00, UTC+2, Africa/Ceuta Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Guadalajara, Cádiz, Melilla, Algeciras, Aci Catena, Belvedere Marittimo Edit this on Wikidata
Nawddsant Daniele Fasanella Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Extrapeninsular Spain Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Sbaen Sbaen
Arwynebedd 18.5 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 10 ±1 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Y Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Belyounech, Tangier-Tetouan-Al Hoceima Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 35.88667°N 5.3°W Edit this on Wikidata
Cod post 51000–51999 Edit this on Wikidata
ES-CE Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaethol Assembly of Ceuta Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd gan Punic people Edit this on Wikidata
Lleoliad Ceuta

Yn ôl traddodiad, ymwelodd Ercwlff (Heracles) ac Odysseus (Ulusses) yma. Roedd yn borthfa filwrol dan y Rhufeiniaid. Fe'i rheolwyd gan yr Ymerodraeth Fysantaidd ar ôl hynny ac yna yn 931 fe'i meddianwyd gan reolwyr Umayyad newydd Andalucía. Roedd y bardd Ibn Sahl o Sevilla yn Ceuta rhwng 1248 a 1250 yng ngwasanaeth y llywodraethwr lleol. Cipiodd Siâms I o Aragon y ddinas yn 1309 ac yn 1415 fe'i cipwyd gan Portiwgal. Rhwng 1580 a 1640 roedd dan reolaeth Sbaen a Phortiwgal gyda'i gilydd (roedd y ddwy wlad hynny wedi'u huno yn y cyfnod hwnnw). Pan dorrodd Portiwgal allan o'r undeb meddiannodd y Sbaenwyr y diriogaeth.

Treuliodd y marchog Almaenig Jörg von Ehingen tua saith mis yn Ceuta yn 1455-1456 pan fu'r dref gaerog dan warchae gan y Morociaid.