Y felan

genre mewn cerddoriaeth

Math o gerddoriaeth yw'r felan, y felan-gân, y bliws[1] neu'r blŵs[1] (Saesneg: blues, the blues neu blues music) a darddai o draddodiadau'r Americanwyr Affricanaidd yn ne Unol Daleithiau America yn ail hanner y 19g. Ffurf ar gerddoriaeth werin ydyw a ddatblygodd yn nhaleithiau Perfeddion y De, o'r 1860au ymlaen—oes yr Ailymgorfforiad yn sgil diwedd Rhyfel Cartref America—a ymgorfforai'r amryw ffurfiau ar ganu yn niwylliant y bobl dduon: emynau ysbrydol, alawon gwaith a chrïau'r caeau, gweiddganau a siantiau, a baledi traethiadol syml mewn odl. Nodweddir ffurf gerddorol y felan gan batrwm galw-ac-ateb, graddfa'r felan, a dilyniannau cordiau penodol, fel arfer y felan ddeuddeg-bar. Elfen bwysig arall o'r sain ydy'r meddalnodau neu nodau'r felan, hynny yw nodau a genir ar draw ychydig yn wahanol i'r arfer, gan amlaf trydyddau, pumedau, neu seithfedau a ostyngir gan chwarter neu hanner tôn. Atgyfnerthir rhythm llesmeiriol y felan gan nodau shiffl neu linell fas parhaus sy'n creu effaith ailadroddus a elwir groove.

Y felan
Y canwr a gitarydd B. B. King, a elwir "Brenin y Felan", yn perfformio ym 1971.
Enghraifft o'r canlynol genre gerddorol Edit this on Wikidata
Math cerddoriaeth boblogaidd, music of North America Edit this on Wikidata
Gwlad Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu 1890s Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Nodweddir genre'r felan gan ei geiriau, a sonir am deimladau, ofnau, a gobeithion personol, ei llinellau bar, a'i hofferyniaeth. Un linell a ailadroddir pedwar gwaith oedd y pennill traddodiadol yn y felan gynnar. Yn nechrau'r 20g daeth y strwythur gyffredin i ddiffinio'r felan nodweddiadol, sef patrwm AAB, gan gynnwys un linell a genir dros y pedair bar gyntaf, a ailadroddir dros y pedair bar nesaf, ac yna llinell arall dros y pedair bar olaf. Offerynnau gwreiddiol y felan oedd y banjo, y piano a'r ffidl, ac o fewn amser daeth i gynnwys y clarinét, y trwmped, y trombôn, y drwm ochr, y drwm bas, a'r symbalau. Yn yr 20g daeth y gitâr i fri yn y felan. Stori, disgrifiad neu fynegiant syml a draethir gan hen ganeuon y felan, fel arfer yn ymwneud ag anffafriaeth hiliol, tlodi, neu brofiadau eraill yr Americanwyr Affricanaidd.[2]

Gellir olrhain nifer o elfennau'r felan, gan gynnwys y patrwm galw-ac-ateb a'r meddalnodau, yn ôl i gerddoriaeth Affrica. Er ei bod yn seciwlar yn bennaf, tynnodd gwreiddiau'r felan yn gryf ar gerddoriaeth grefyddol y Cristnogion Affricanaidd-Americanaidd yn y 19g, yn enwedig y caneuon ysbrydol Negroaidd. Fel rheol, nodir rhyddfreinio'r caethweision yn yr Unol Daleithiau fel man cychwyn y felan, oes newydd o ryddid ac amser hamdden i'r Americanwyr croenddu, er iddynt parhau i ddioddef hiliaeth ac ôl-effeithiau caethwasiaeth. Dechreuodd fel cerddoriaeth leisiol ddigyfeiliant, ar sail traddodiad llafar cryf y cyn-gaethweision, a throdd nifer o dduon yn gantorion a cherddorion, yn eu cymunedau neu ar grwydr. Datblygodd yr arfer o ganu unawd gyda chyfeiliant gan y banjo, ac ambell weithiau'r piano, a ffynnodd yn ddiweddarach yn nhai tafarnau'r bobl dduon, y juke joints neu barrelhouses, yn nhaleithiau'r de-ddwyrain. Sonir yn gyntaf amdani fel math unigryw o ganu gan awduron ar droad y ganrif, a chyhoeddwyd yr esiampl gyntaf o gerddoriaeth ddalen y felan ym 1908. Esblygodd y felan yn sylweddol ac ymddangosodd sawl is-genre, gan gynnwys y felan wlad megis melan y Delta a melan Piedmont, hocwm a'r felan fudr, a chanu'r dinasoedd ar arfordiroedd y dwyrain a'r gorllewin. Ymledodd ar draws yr Unol Daleithiau, gan esgor ar arddulliau lleol ym Memphis, Houston, Birmingham, New Orleans, Dinas Kansas, St. Louis, a Chicago. Câi ddylanwad ar ddatblygiad mathau newydd o gerddoriaeth, yn enwedig trwy gyfuno â ragtime i ffurfio jazz, ac yno'n cymysgu eto â jazz i greu rhythm a blŵs, a fyddai'n croesi â chanu gwlad yr Americanwyr gwynion i greu roc a rôl. Yng nghanol yr 20g trodd y felan yn drydanol, a daeth ei sain yn fwy poblogaidd i bobl wynion yn yr Unol Daleithiau, ac mewn gwledydd eraill. Datblygwyd cyfuniad o gerddoriaeth roc ac arddulliau'r felan yn y 1960au a'r 1970au.

Ffurf y gerddoriaeth golygu

Mae alaw'r felan ar nodau cerdd y cywair lleddf pentatonig, hynny yw, ar y nodau do me fa so te. Yn nghywair C felly, fe fydd yr alaw ar C Eb F G Bb. Gelwir y nodau fflat Eb a Bb yn nodau'r felan (blue notes). Fe fydd yn arferol hefyd i ganu'r felan yn nghywair A neu E. Mae cywair Bb a Eb hefyd yn boblogaidd. Yng nghywair A, D ac E felly, fe fydd yr alaw yn cwympo fel arfer ar allweddau gwyn y piano, ac yn nghywair Eb fe fydd hi ar yr allweddau du.

Y felan ar ddeuddeg bar golygu

 
St. Louis Blues (1914)

Nid yw'r felan yn angenrheidiol ar 12-bar blŵs. Gellir fod ar wyth neu 16 bar, ond y dull mwyaf sylfaenol yw canu penillion o dair llinell ar 12 bar. Yn wreiddiol, roedd ceith-was yn canu'r llinell gyntaf wrth weithio yn y cae, ac eraill yn ei ateb wrth ganu'r ail linell gyda'r un geiriau yn aml iawn, ond ar nodau gwahanol. Wedyn roedd yn canu'r trydydd llinell.

Mae'r siart a ganlyn yn dangos yr enghraifft mwyaf syml a chyffredin. Mae'r siart yn dangos y cordiau yn nghywair C mewn 12 bar o 4 curiad. Gellir chwarae'r felan yn araf neu yn gyflym.

C///|////|////|////|
F///|////|C///|////|
G7///|F///|C///|////|

Mae'r dilyniant uchod (neu drosiad i gywair arall) yn cael ei ddefnyddio mewn miloedd o ganeuon y felan, R&B a roc.

Dyma amrywiad;

C///|////|////|C7///|
F///|////|C///|////|
G7///|F///|C///|G7///|

Gelwir y ddau far olaf (barau 11 a 12) yn blwsdroad; dau far offerynnol a fydd yn troi'n ôl at ddechrau'r bennill nesaf. Weithiau fe fydd y troad yn cael ei ddefnyddio fel cyflwyniad i'r gân, hynny yw, gellir dechrau'r gân wrth chwarae barrau 11 a 12 yn offerynnol cyn y bennill gyntaf.

Mae llawer o ganeuon y felan yn defnyddio cordiau seithfed o ben bwy gilydd (er bod hwn yn groes i ddamcaniaeth confensiynol cerddoriaeth sy'n gorchymyn bod e ddim yn arferol i ddechrau ar gord seithfed a bod darn o gerddoriaeth byth yn terfyn ar gord seithfed). Gellir goleddfu'r enghreifftiau uchod wrth chwarae cordiau seithfed yn lle'r prif gordiau, hynny yw, chwarae C7 yn lle C a F7 yn lle F. Dyma enghraifft syml o'r felan yn A sy'n defnyddio cordiau seithfed yn unig,

A7///|D7///|A7///|////|
D7///|////|A7///|////|
E7///|D7///|A7///|E7///|


Melan y Delta golygu

 
Robert Johnson

Yn rhanbarth Delta Mississippi, yng ngogledd-orllewin talaith Mississippi ar y ffin ag Arkansas a Louisiana, mae gwreiddiau'r felan ar ddechrau'r 20g. Dyma'r gwastatir llifwaddod ffrwythlon rhwng afonydd Mississippi ac Yazoo, ardal amaethyddol a oedd yn gartref i niferoedd mawrion o gyn-gaethweision a'u disgynyddion a drodd yn gyfrangnydwyr, yn bennaf yn y diwydiant cotwm. Canwr tlawd ar grwydr, neu glerwr, oedd y blwsmon cynnar, heb hyfforddiant cerddorol ffurfiol na chynhaliaeth sicr. O ganlyniad, datblygodd y felan sain foel, arw, yn ddibynnol ar yr unawd, gyda chyfeiliant y banjo'n wreiddiol cyn i'r gitâr (acwstig neu lithr) a'r organ geg ennill eu plwyf. Cenid weithiau mewn llais main gydag ambell i sgrechian, a defnyddid technegau'r gitâr llithr, plicio â'r bysedd, a chyweirio agored i greu sŵn trawiadol a theimladol. Daeth cantorion-gyfansoddwyr y felan o dlodi a diffyg addysg, yn aml yn anllythrennog, a bu geiriau'r caneuon yn syml, ailadroddus, a gwerinol. Fodd bynnag, mynegasant emosiynau a phrofiadau o galedni, serch, a cholled yn onest ac yn bwerus.

Yn y Delta datblygodd genre gerddorol a oedd yn unigryw i'r Americanwyr Affricanaidd, ac a syniai'n ddieithr iawn i glustiau Ewropeaidd y cyfnod, ac mae hanes cynnar y felan ynghlwm wrth ddiwylliant gwerin y bobl dduon. Genid nifer o straeon dirgel am gerddorion yr oes, gan gynnwys chwedl y groesffordd, y fan a dybir i ddyn daro bargen â'r diafol yno i ennill ei ddawn gerddorol hynodol. Traddodir y stori honno gan amlaf am Robert Johnson (1911–38), un o'r gitaryddion a chyfansoddwr caneuon mwyaf dylanwadol yn hanes cerddoriaeth, a'r un a wnaeth y felan ar ddeuddeg bar yn safonol. Ymhlith arloeswyr eraill melan y Delta oedd Charley Patton (oddeutu 1891–1934), Son House (1902–88), a Skip James (1902–69).

Y felan glasurol golygu

 
Mamie Smith

Cyfeiria'r felan glasurol at y perfformwyr benywaidd a flodeuai yn y 1920au, a gyfunodd yr hen felan werin â cherddoriaeth y theatr a vaudeville, gyda chyfeiliant pianydd neu fand jazz bychan. Y gantores ddu gyntaf i recordio cân felan oedd Mamie Smith (1891–1946) gyda "Crazy Blues" ym 1920, ac ymhlith y cantoresau eraill oedd Bessie Smith (1894–1937), Ma Rainey (1886–1939), Ethel Waters (1896–1977), Clara Smith (1894–1935), ac Ida Cox (1894–1967). Buont yn nodedig am eu presenoldeb cryf ar y llwyfan, eu hymagwedd grand a'u personoliaeth hyderus, ystrydeb y diva. Yn debyg i'r cantorion gwrywaidd, caneuant am galedni bywyd a thor-calon, ond gyda safbwynt o'r trafferthion ychwanegol a wynebwyd gan fenywod croenddu.

Y felan drydanol a'r dinasoedd golygu

Ym 1920, fe symudodd y felan tuag at y gogledd gyda'r mudiad o weithwyr du i ffatrïoedd Detroit a Chicago.

Melan Chicago golygu

Yn Chicago fe gafodd y felan ei drydanu. Roedd rhai a ddaeth o Mississippi yn wreiddiol, fel Muddy Waters a Howlin' Wolf, yn defnyddio gitâr drydan, gitâr fas, drymiau, a'r piano, ac efallai sacsoffon.

Melan Detroit golygu

Un o ganwyr y felan mwyaf adnabyddus o Detroit oedd John Lee Hooker. Daeth o Mississippi yn wreiddiol ond ym 1948 fe symudodd yno.

Enwogion y felan golygu

O'r Mississippi golygu

O leoedd eraill yn yr U. D. golygu

 
Jimi Hendrix

O weddill y byd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1  bliws. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 26 Mai 2015.
  2. "Honoring Jazz: An Early American Art Form". Civilrightsmuseum.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-02-05. Cyrchwyd 2022-11-07.