Göbekli Tepe

safle archaeolegol yn Nhwrci

Safle archaeolegol ar gopa mynydd yn Ne-ddwyrain Anatolia, Twrci ydy Göbekli Tepe sy'n dyddio i 8,000-10,000 o flynyddoedd cyn y presennol (CP).[1]

Göbekli Tepe
Math tell, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • c. Mileniwm 10. CC (tua) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Talaith Şanlıurfa, Haliliye Edit this on Wikidata
Gwlad Twrci Edit this on Wikidata
Arwynebedd 126 ha, 461 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr 760 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 37.2231°N 38.9225°E Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegol Oes Newydd y Cerrig Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaeth Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion

Saif y safle hwn oddeutu 12 km (7 milltir) i'r de-ddwyrain o ddinas Şanlıurfa. Ar ei uchaf, mae'n 15 m (49 tr) ac mae tua 300 m (984 tr) mewn diametr. Mae'r safle yn 760 m (2,493 tr) yn uwch na lefel y môr.[2] Enw copa'r mynydd yw "Bryn y Bol Mawr".[3]

Mae'n bosibl i'r safle hwn gael ei ddefnyddio ar gyfer defodau crefyddol rhwng 9C CC a 11C CC. yn ystod y cyfnod cynharaf, sef y 'Cyn-grochenwaith Neolithig A' (Saesneg: Pre-Pottery Neolithic A neu PPNA) codwyd cylchoedd o feini neu gerrig anferthol. Ceir dros 200 o feini neu golofnau cerrig mewn ugain cylch. Mae uchter pob maen hyd at 6 metr ac mae pob maen yn pwyso hyd at 20 tunnell. Maent wedi eu llitho i socedi a naddwyd o'r graig yn un pwrpas i'w cynnal.[4]

Yn yr ail gyfnod, sef y 'Cyn-grochenwaith Neolithig B' (Saesneg: Pre-Pottery Neolithic B neu PPNB) mae'r meini'n llai ac wedi'u gosod ar ffurf ystafelloedd petryal, gyda lloriau o galchfaen wedi'u caboli'n llyfn. Ar ddiwedd y cyfnod hwn ni fu defnydd o'r safle na rhagor o ddatblygu.

Mae pwrpas y noddfa hwn yn anhysbys, yn ddirgelwch llwyr. Cafwyd hyd iddo gan archaeolegydd Almaenig, Klaus Schmidt a fu'n gweithio yno rhwng 1996 hyd at ei farwolaeth yn 2014. Cred Schmit yw mai noddfa neolithig o ryw fath ydoedd.

Dyddio golygu

 
Y safle a'r archwiliad archaeolegol

Mae'n amlwg fod y safle wedi'i ddefnyddio dros gyfnod o sawl canrif, gan gychwyn yn y cyfnod epipaleolithig. Mae'r meini a strwythurau eraill yn dyddio i'r PPNA, sef y 10fed mileniwm CP. Ceir strwythurau llai, sef olion adeiladau llai, o'r cyfnod nesaf (y PPNA) sy'n dyddio i'r 9C CP.

Gwnaethpwyd sawl ymchwiliad drwy ddyddio radiocarbon:

Rhif labordy Cynnwys Blwydd. CC
cal BCE
Ua-19561 lloc C 7560–7370
Ua-19562 lloc B 8280–7970
Hd-20025 Haen III 9110–8620
Hd-20036 Haen III 9130–8800

Roedd y samplau Hd a gymerwyd o haen o siarcol a ganfuwyd ar waelod y lefelau isaf o weithgaredd - ac sy'n dyddio i ddiwedd y cyfnod cyntaf o weithgaredd dynol ar y safle (Lefel III); wrth gwrs, byddai'r strwythurau ei hunan yn llawer hŷn. Daeth y samplau Ua o haenau o garbon ar y colofnau, ac eto'n dynodi diwedd y cyfnod y'i defnyddiwyd—y terminus ante quem.[5]

Pwysigrwydd golygu

 
Colofn 2, Lloc A (Haen III) gyda cherfiadau o darw, cadno a garan.

Mae Göbekli Tepe yn unigryw ac yn llawn cwestiynau nad oedent, yn 2016, wedi eu hateb. Yn eu plith mae'r cwestiwn pam y llanwyd y safle cyfan gyda phridd ar ddiwedd yr ail gyfnod, fel ymgais i'w guddio. Mae llawer o anifeiliaid hefyd wedi eu cerfio ar y maeni, y rhan fwyaf ohonynt yn anifeiliaid hela ee llew, baedd gwyllt ac adar. Cwestiwn arall yw pam nad oes olion bywyd yma, a ble felly roedd y trigolion yn byw?

Oherwydd fod y safle hwn mor wahanol i bob safle arall, gall yr atebion i'r cwestiynau hyn newid ein dealltwriaeth o'r cyfnod pwysig hwn yn natblygiad dyn a chymdeithas a'r modd y trodd yr heliwr-gasglwr yn ffarmwr.

Barn Ian Hodder o Brifysgol Stanford yw, "Gall Göbekli Tepe newid popeth".[3][6] Yn ei farn ef, mae'n dangos fod gan yr heliwr-gasglwr y gallu a'r sgiliau i drin a cherfio maeni anferthol yn Hen Oes y Cerrig Uchaf, llawer cyn y ffermiwr ac olion tai y ffermwr a ddaeth ar ei ôl. Fel y dywedodd Klaus Schmidt: "Y deml ddaeth gyntaf, ac yna'r ddinas."[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Göbekli Tepe". Forvo Pronunciation Dictionary.
  2. Klaus Schmidt (2009): Göbekli Tepe - Eine Beschreibung der wichtigsten Befunde erstellt nach den Arbeiten der Grabungsteams der Jahre 1995-2007. In: Erste Tempel - Frühe Siedlungen. 12000 Jahre Kunst und Kultur. Oldenburg, p. 188.
  3. 3.0 3.1 "History in the Remaking". Newsweek. 18 Chwefror 2010.
  4. Curry, Andrew (Tachwedd 2008). Gobekli Tepe: The World’s First Temple?. Smithsonian.com. http://www.smithsonianmag.com/history-archaeology/gobekli-tepe.html. Adalwyd August 2, 2013.
  5. Upper Mesopotamia (SE Turkey, N Syria and N Iraq) 14C databases: 11th–6th millennia cal BCE
  6. http://www.newsweek.com/turkey-archeological-dig-reshaping-human-history-75101
  7. K. Schmidt 2000: "Zuerst kam der Tempel, dann die Stadt." Troswyd o'r Saesneg: "First came the temple, then the city."