The Wayback Machine - https://web.archive.org/web/20140812231325/http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=21491
|| ||

Dinas a Sir Abertawe

Website URL : http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=21491
||

Penodi datblygwyr ar gyfer adfywiad gwerth £1 biliwn i ganol dinas Abertawe

Penodwyd dau o brif ddatblygwyr Ewrop i drawsnewid canol dinas Abertawe mewn cynllun gwerth £1 biliwn.

Mae Cyngor Abertawe a'i bartner, Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) wedi dewis menter ar y cyd rhwng Hammerson plc ac Urban Splash i fod ar flaen y gad wrth adfywio prif safleoedd masnachu a glannau'r ddinas.

Mae Hammerson yn un o brif gwmnïau eiddo Ewrop sy'n arbenigo mewn adfywio dinesig, gyda gweithrediadau yn y DU a Ffrainc. Mae Urban Splash yn gwmni adfywio blaengar a chanddo brofiad llwyddiannus o bensaernïaeth a dylunio ac adfywio trefol o ansawdd uchel.

Mae'r cynllun arfaethedig yn cynnwys 600,000 troedfedd sgwâr o le manwerthu ychwanegol, 1,000 uned breswyl a chyfleusterau hamdden, swyddfa, gwesty a chynadledda newydd ar safleoedd sydd eisoes yn bodoli sef safleoedd Dewi Sant a'r Cwadrant a'r meysydd parcio yn Stryd Paxton a Neuadd y Sir.

Dywedodd Chris Holley, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae penodi Hammerson ac Urban Splash yn ddatganiad enfawr o fwriad gan Abertawe.

"Mae Hammerson yn un o'r prif ddatblygwyr eiddo yn Ewrop a chanddo brofiad amlwg a'r gallu ariannol i gyflawni'n huchelgais ar gyfer canol y ddinas a'r glannau.

Mae Urban Splash hefyd yn un o'r datblygwyr preswyl canol dinas mwyaf blaenllaw a chanddo brofiad helaeth ac amlwg ym Manceinion, Leeds a Lerpwl, lle gwelwyd adfywio a buddsoddi mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

"Mae ganddynt y gallu a'r profiad i drawsnewid Abertawe drwy weddnewid ein canolfan fanwerthu a chreu lleoedd cyffrous ar hyd y glannau.

"Mae'n bur debyg mai dyma'r cyhoeddiad mwyaf arwyddocaol i Abertawe yn ystod y 50 mlynedd diwethaf ac mae'n dilyn buddsoddiad preifat sylweddol yng nghanol y ddinas, gan gynnwys y datblygiad manwerthu gwerth £30 miliwn ar safle siop House of Fraser gynt ar Ffordd y Dywysoges sydd i'w gwblhau erbyn yr hydref, 2008."

Gan ystyried maint a phwysigrwydd y buddsoddiad hwn, bydd Cyngor Abertawe, LlCC a'r datblygwyr yn gweithio gyda'i gilydd yn ystod y 12 - 18 mis nesaf er mwyn sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer y cynllun adfywio.

Dywedodd Leighton Andrews, y Dirprwy Weinidog dros Adfywio, fod y penodiad yn nodi dechrau cyfnod newydd a chyffrous i ganol dinas Abertawe.

"Mae hon yn ffordd ardderchog o gychwyn y flwyddyn newydd ac mae'n newyddion gwych i Abertawe. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi medru denu dau o brif ddatblygwyr Ewrop a chanddynt gynigion blaengar a chyffrous iawn er mwyn trawsffurfio a bywiogi ardaloedd allweddol yn Abertawe.

"Rydym yn chwilio am gynigion creadigol sy'n cynnwys pensaernïaeth a dyluniad ardal gyhoeddus o safon ynghyd ag ymrwymiad i gynaladwyedd, ac rydym yn hyderus y bydd y bartneriaeth rhwng Hammerson ac Urban Splash yn cyflawni hyn."

Mae gan y ddau gwmni enw da am gyflwyno cynlluniau tirnod sy'n darparu amgylcheddau deniadol a chynaliadwy lle y gall pobl fyw, gweithio, siopa, dysgu a threulio eu hamser hamdden. Maent yn buddsoddi mewn trefi a dinasoedd am y tymor hir gan weithio'n galed i sicrhau bod cynlluniau yn aros yn gynaliadwy ac yn rhan annatod o'r ddinas. Yn ddiweddar maent wedi cydweithio i adfywio canol dinas Birmingham gyda datblygiad defnydd cymysg manwerthu y Bullring.

Dywedodd John Richards, Prif Weithredwr Hammerson, " Mae'r penodiad hwn yn adlewyrchiad o lwyddiant amlwg Hammerson ym maes adfywio graddfa fawr a defnydd cymysg. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Cyngor a chyda'n partner, Urban Splash, i fwrw ati i ddatblygu'r safle pwysig hwn a chreu amgylchedd canol dinas y bydd trigolion Abertawe yn wirioneddol falch ohono."

Dywedodd Jason Collard, Rheolwr Gyfarwyddwr Urban Splash y de - orllewin, " Mae Urban Splash yn falch o weithio unwaith eto gyda Hammerson yn dilyn y cydweithredu llwyddiannus a fu ar y Bullring yng Nghanol Dinas Birmingham. Hwn fydd ein datblygiad cyntaf yng Nghymru ac rydym yn falch iawn o gael ein gwahodd i chwarae rhan allweddol yn y fenter bwysig hon i Abertawe."

Mae'r penodiad yn dilyn cystadleuaeth naw mis ar draws Ewrop a ddenodd datblygwyr o fri i gynnig cais i gyflwyno thema fywiog a defnydd cymysg Fframwaith Strategol Canol y Ddinas, Abertawe - prif gynllun er mwyn adfywio canol y ddinas.

Cofrestrwch am newyddion dyddiol yn www.swansea.gov.uk/subscribe

Dilynwch ni ar Twitter

Ffrwd Newyddion y Cyngor

© 2014 Dinas a Sir Abertawe
Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. SA1 3SN. Ffôn: 01792 636000 Ffacs: 01792 636340
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Monday July 14 2008