Llywodraeth Vichy

Llywodraeth Vichy oedd llywodraeth y rhan ddeheuol o Ffrainc yn y cyfnod 1940-1944 yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn dilyn Brwydr Ffrainc. Galwai'r wladwriaeth ei hun yn État français ("Gwladwriaeth Ffrainc"), dan reolaeth y marsial Philippe Pétain, a defnyddiai ddinas Vichy yn Allier fel prifddinas. Yn ymarferol, roedd dan reolaeth yr Almaen Natsïaidd.

Llywodraeth Vichy
Enghraifft o'r canlynol gwlad ar un adeg, regime, Gwladwriaeth byped Edit this on Wikidata
Daeth i ben 29 Awst 1944 Edit this on Wikidata
Label brodorol État français Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu 10 Gorffennaf 1940 Edit this on Wikidata
Map
Rhagflaenydd y Drydedd Weriniaeth Ffrengig Edit this on Wikidata
Olynydd Provisional Government of the French Republic Edit this on Wikidata
Enw brodorol État français Edit this on Wikidata
Gwladwriaeth Ffrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Yr ardal a reolid gan Lywodraeth Vichy mewn porffor.

Hanes golygu

Roedd Pétain wedi olynu Paul Reynaud fel arweinydd Ffrainc ar 16 Gorffennaf 1940. Ar 22 Mehefin, ildiodd byddinoedd Ffrainc i'r Almaen yn Compiègne. Dan y cytundeb, roedd yr Almaen i feddiannu gogledd a gorllewin Ffrainc, tra roedd y gweddill o Ffrainc a'i threfedigaethau i fod dan lywodraeth hanner-annibynnol. Cytunodd Pétain, oedd yn 84 oed, i weithredu fel pennaeth y wladwriaeth yma. Penododd Pierre Laval a François Darlan fel dirprwyon iddo.

Wedi i'r Cyngheiriad lanio yn y gogledd-orllewin yn 1944, symudodd yr Almaenwyr Lywodraeth Vichy i Belfort ac yn nes ymlaen i Sigmaringen yn yr Almaen. Wedi buddugoliaeth y Cyngheiriaid, dienyddiwyd nifer o aelodau o'r llywodraeth, yn eu plith Laval, am deyrnfradwriaeth, tra dedfrydwyd Pétain i garchar am oes.

Cyfeiriadau golygu