Un o ynysoedd Polynesia, yn rhan o Tsile yn weinyddol, yw Ynys y Pasg[1] (Sbaeneg: Isla de Pascua, hefyd Rapa Nui). Mae'n dalaith i Tsile, a'r brifddinas yw Hanga Roa.

Ynys y Pasg
Math ynys Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Pasg Edit this on Wikidata
Poblogaeth 7,750 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC−06:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Chilean Spanish, Rapa Nui Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Lleoliad Tsile Ynysol Edit this on Wikidata
Sir Isla de Pascua Edit this on Wikidata
Gwlad Tsile Edit this on Wikidata
Arwynebedd 164 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 242 metr, 211 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Y Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 27.1194°S 109.3547°W Edit this on Wikidata
Hyd 24 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Ynys y Pasg ("Easter Island" ar y map)

Mae'r ynys yn 163.6 cilomedr sgwar, ac roedd y bobologaeth yn 2005 yn 3,791. Rhoddwyd yr enw "Ynys y Pasg" iddi gan y fforiwr Jacob Roggeveen, a gyrhaeddodd yno ar ddydd Sul y Pasg, 1722. Yr enw Polynesaidd yw "Rapa Nui" ("craig fawr").

Mae'r ynys yn enwog am ei cherfluniau anferth, y moai. Mae'r mwyaf ohonynt yn naw medr a hanner o uchder. Ystyrir eu bod yn gerfluniau o hynafiaid y trigolion. Dynodwyd yr ynys yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1995.

Moai ar eu sefyll ar Ynys y Pasg
Moai ar eu sefyll ar Ynys y Pasg

Cyfeiriadau golygu

  1. Gareth Jones (gol.), Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999)