Rolf Harris

actor a chyfansoddwr a aned yn Perth yn 1930

Canwr, cyfansoddwr, arlunydd, digrifwr a chyflwynydd teledu Awstralaidd o dras Cymreig oedd Rolf Harris (30 Mawrth 193010 Mai 2023). Cafodd ei eni yn Bassendean, Perth, Gorllewin Awstralia. Peintiwr portreadau o ardal Merthyr Tudful oedd ei daid, George Frederick Harris.[1] Symudodd i'r Deyrnas Unedig fel myfyriwr celf yn ystod yr 1950au. Mae ei wraig Alwen Hughes yn Gymraes.

Rolf Harris
Ganwyd 30 Mawrth 1930 Edit this on Wikidata
Bassendean Edit this on Wikidata
Bu farw 10 Mai 2023 Edit this on Wikidata
o cancr y pen a'r gwddf, frailty syndrome Edit this on Wikidata
Bray Edit this on Wikidata
Label recordio Columbia Records, Epic Records, Capitol Records, EMI Records Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
  • Perth Modern School
  • Prifysgol Gorllewin Awstralia
  • City and Guilds of London Art School
  • Prifysgol Edith Cowan
  • Claremont Teachers College Edit this on Wikidata
Galwedigaeth cyflwynydd teledu, arlunydd, canwr, cyfansoddwr, actor, cyfansoddwr caneuon, cyfarwyddwr ffilm, diddanwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Arddull comedy music Edit this on Wikidata
Priod Alwen Hughes Edit this on Wikidata
Plant Bindi Harris Edit this on Wikidata
Gwobr/au CBE, Swyddogion Urdd Awstralia, Medal Canmlwyddiant, Aelod o Urdd Awstralia, MBE, OBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Roedd Rolf Harris yn enwog am ganeuon fel "Tie Me Kangaroo Down, Sport" a ddaeth yn boblogaidd yn y Top 10 hits yn Awstralia. Yn America ac yn y Deyrnas Unedig bu Harris yn enwog am caneoun fel "Jake The Peg". Oedd e wastad yn chwarae didgeridoo a bwrdd wabble yn ystod ei berformiadau. Yn ystod yr 1960au ar 1970au daeth Rolf Harris yn bersonolaeth boblogaidd yn y Deyrnas Unedig yn cyflwyno rhaglenni fel "Animal Hospital" a "Rolf's cartoon club".

Yn 2013, roedd yn un o 12 o bobl a arestiwyd gan swyddogion o Operation Yewtree, a fe'i gyhuddwyd o nifer o achosion, yn dyddio o'r 1980au, o ymosod yn anweddus ar ferched ifanc. Gwadodd y cyhuddiadau ond fe'i gafwyd yn euog ar ddeuddeg achos ym Mehefin 2014. Ar 4 Gorffennaf 2014, yn 84 mlwydd oed fe'i ddedfrydwyd i bum mlynedd a naw mis yn y carchar. Fe'i ryddhawyd ar 19 Mai 2017. Gwynebodd saith cyhuddiad arall o drais rhywiol. Fe'i gliriwyd gan reithgor o 3 achos ond nid oeddent yn gallu dod i benderfyniad mewn pedwar achos arall felly fe'i ryddfarnwyd o'r cyhuddiadau.

Bu farw o ganser yn 93 oed.[2]

Disgograffi golygu

  • Best of Rolf Harris (1967)
  • Animal Magic (1996)
  • Sun Arise (1997)
  • Rolf Rules OK (1999)
  • King Rolf (2001)

Ffilmiau golygu

  • You Lucky People (1955)
  • Crash Drive (1959)
  • Web of Suspicion (1959)
  • The Little Convict (1979)

Teledu golygu

  • Hancock's Half-Hour (1957-59)
  • The Rolf Harris Show (1968-79)
  • Rolf on Saturday OK? (1977)
  • Rolf's Here - OK? (1981)
  • Rolf's Cartoon Club (1988)
  • Animal Hospital (1994)
  • Amazing World of Animals (1998)
  • Rolf on Art (2001)
  • Rolf on African Art (2005)
  • Star Portraits with Rolf Harris (2004-7)

Cyfeiriadau golygu

  1. Aled Blake (2 Mehefin 2006). "Rolf returns to Welsh family roots". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Mai 2023.
  2. "Rolf Harris: Serial abuser and ex-entertainer dies aged 93". BBC News (yn Saesneg). 23 Mai 2023. Cyrchwyd 23 Mai 2023.